DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Syrcasau – y camau nesaf o ran ystyried a ddylid defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol

DYDDIAD

01 Rhagfyr 2015

GAN

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

 

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn nad oes unrhyw le i anifeiliaid gwyllt mewn syrcas. Teimlwn hefyd ei bod yn amlwg bellach nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw awydd i weithredu ar y mater hwn, er gwaethaf ymrwymiadau blaenorol gan Defra i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a nifer o addewidion gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

Wrth ystyried sut mae mynd ati i ddatrys y mater hwn yng Nghymru, rwyf wedi gofyn am adolygiad annibynnol gan yr Athro Stephen Harris, sef Ail Athro Coffa’r Arglwydd Dulverton yn y Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bryste. Bydd yr Athro Harris yn adolygu’r dystiolaeth am les anifeiliaid, boed yn lles corfforol neu feddyliol, ym mhlith anifeiliaid gwyllt a/neu anifeiliaid nad ydynt yn ddomestig mewn syrcasau teithiol neu sefydlog. Rwyf wedi gofyn hefyd iddo ystyried sut mae amgylchedd yr anifeiliaid hyn yn cael ei gyfoethogi ac i edrych ar eu hymddygiad. Edrychaf ymlaen at gael yr adroddiad drafft terfynol ganddo erbyn diwedd Chwefror 2016.

 

Mae’r Athro Stephen Harris wedi dal Cadeiryddiaeth y Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bryste ers 1992. Mae’n arbenigwr ar ymddygiad a lles mamaliaid gwyllt ac yn arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol. Disgwylir y bydd yn casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol o bedwar ban byd.

 

Rwyf eisoes wedi cytuno hefyd y dylai swyddogion Llywodraeth Cymru ddal ati i drafod gyda Chymdeithas Llywodraeth leol Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yr heddlu a’r Awdurdodau Lleol i lunio dull cydlynol o fonitro diogelwch y cyhoedd ac iechyd a lles anifeiliaid mewn syrcasau teithiol  ledled Cymru gyfan. Mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo gyda’r nod o greu un ddogfen gyfeiriol a rhestr wirio at ddefnydd pob awdurdod lleol ac asiantaeth orfodi yng Nghymru.

 

Byddaf yn parhau i hysbysu Aelodau’r Cynulliad o’r cynnydd yn y maes hwn.